06 Mehefin 2019
Annwyl Llyr,
Taliadau cadw mewn contractau adeiladu
Diolch am eich llythyr dyddiedig 16 Mai, sy'n cynnig cynnal gwaith ar y cyd ar daliadau cadw mewn contractau adeiladu.
Dyma ysgrifennu atoch i'ch hysbysu bod Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn cydnabod pwysigrwydd y pwnc hwn, ac y byddai'n hapus i wneud gwaith ar y cyd gyda'r Pwyllgor Cyllid.
Rwyf wedi gofyn i Gareth Price, Clerc y Pwyllgor hwn, gysylltu â Chlerc y Pwyllgor Cyllid er mwyn trefnu cyfarfod i drafod y camau nesaf.
Yn gywir,
Russell George AC
Cadeirydd
Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau